MEMORANDWM ESBONIADOL I

Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) Cymru 2016

 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad Prif Weinidog Cymru

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016.  Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

Carwyn Jones AC

Prif Weinidog Cymru

 

 

14 Rhagfyr 2015

 


Disgrifiad

Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016 ('y Rheoliadau') yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau; safonau llunio polisi; safonau gweithredu; a safonau cadw cofnodion. 


Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud y safonau'n benodol gymwys i’r 32 sefydliad canlynol, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd') i roi Hysbysiadau Cydymffurfio i'r sefydliadau hynny mewn perthynas â'r safonau a bennwyd:

·         Cyngor Celfyddydau Cymru (‘The Arts Council of Wales’)

·         Archwilydd Cyffredinol Cymru (‘The Auditor General for Wales’)

·         Y Gronfa Loteri Fawr (‘The Big Lottery Fund’)

·         Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (‘The British Broadcasting Corporation’)

·         Comisiynydd Plant Cymru (‘The Children’s Commissioner for Wales’)

·         Colegau Cymru Cyfyngedig (‘Colleges Wales Limited’)

·         Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (‘”The Commission for Equality and Human Rights’)

·         Comisiynydd Pobl Hŷn  (‘The Commissioner for Older People in Wales’)

·         Y Comisiwn Etholiadol  (‘The Electoral Commission’)

·         Prif Arolygydd ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (‘Her Majesty’s Chief Inspector for Education and Training in Wales’)      

·         Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (‘The Information Commissioner’s Office’)

·         Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru (‘The Local Democracy and Boundary Commission for Wales’)

·         Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru (‘The Local Government Data Unit – Wales’)

·         Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (‘National Botanic Garden of Wales’)

·         Llyfrgell Genedlaethol Cymru (‘The National Library of Wales’)

·         Amgueddfa Genedlaethol Cymru (‘The National Museum of Wales’)

·         The National Theatre of Wales

·         Corff Adnoddau Naturiol Cymru (‘Natural Resources Body for Wales’)

·         NIACE

·         Y Swyddfa Gyfathrebiadau (‘The Office of Communications’)

·         Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd Addysg Uwch (‘The Quality Assurance Agency for Higher Education’)

·         Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (‘The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales’)

·         Sianel 4 Cymru

·         Cyngor Chwaraeon Cymru (‘The Sports Council for Wales’)

·         Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig (‘Student Loans Company Limited’)

·         Theatr Genedlaethol Cymru

·         Swyddfa Archwilio Cymru (‘Wales Audit Office’)

·         Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (‘Wales Council for Vountary Action’)

·         Canolfan Mileniwm Cymru (‘Wales Millennium Centre’)

·         Cyngor Llyfrau Cymru (‘The Welsh Books Council’)

·         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (‘The Welsh Local Government Association’)

·         Opera Cenedlaethol Cymru Cyfyngedig (‘Welsh National Opera Limited’)

 

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Rhifau yn y Rheoliadau

 

Mae'r Rheoliadau'n defnyddio'r wyddor Gymraeg h.y. (a), (b), (c), (ch) etc. Mae hyn ond yn effeithio ar un grŵp o safonau - safonau 25A-D. Mae hefyd yn effeithio ar:

 

(1)             nifer fach o is-baragraffau mewn safonau unigol (gweler safonau 90, 111, 124, 132, 133A, 148, 164); 

(2)             paragraffau 27, 31, 33 a 47 o Atodlen 1, paragraff 2 o Atodlen 2, a pharagraffau 11 ac 13 o Atodlen 3; a

(3)             rheoliad 2(5).   

Mae'r arddull hwn yn wahanol i'r arddull arferol a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Fel arfer, defnyddir y wyddor Saesneg yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg. Yn yr achos hwn, oherwydd natur a phwnc y Rheoliadau, defnyddiwyd y wyddor Gymraeg. Defnyddiwyd yr arddull hwn yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg er mwyn sicrhau cysondeb ac osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddryswch wrth groesgyfeirio.  Mabwysiadwyd yr un arddull ar gyfer Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (SI 2015/996).

 

Enw'r Rheoliadau

 

Teitl y Rheoliadau a osodwyd yw Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Os ydynt yn cael sêl bendith y Cynulliad, dyma fydd y rheoliadau cyntaf Safonau'r Gymraeg i gael eu gwneud yn 2016.  Penderfynwyd y bydd teitl y Rheoliadau hyn yn cyfeirio at (Rhif 2) am eu bod yn dilyn ymlaen o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (OS 2015/996) a wnaed ar 24 Mawrth 2015.  Bwriedir i’r holl Reoliadau a wneir o dan adran 26 o'r Mesur yn un gyfres barhaus, yn yr un modd â gorchmynion cychwyn. Bydd hyn yn golygu bod y Rheoliadau'n haws i'w trin ac i gyfeirio atynt, yn enwedig pan fydd Hysbysiadau Cydymffurfio'n cyfeirio at reoliadau.

 

Cyrff yn Atodlen 6 y Rheoliadau

 

Mae Atodlen 6 i'r Rheoliadau'n rhestru'r cyrff y mae'r Comisiynydd wedi'i hawdurdodi i roi hysbysiad cydymffurfio iddynt mewn perthynas â'r Safonau a bennwyd. Mae Adran 43 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur') yn darparu nad yw rheoliadau'n gallu gwneud safonau'n benodol gymwys i berson oni bai bod y safon yn gymwysadwy iddynt. Mae'r rhan fwyaf o'r cyrff a restrir naill ai wedi'u nodi yng ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 6 y Mesur neu o fewn categori o bersonau a nodir yn y golofn honno, ac mae colofn 2 yn disgrifio pa safonau a allai fod yn gymwysadwy iddynt (adran 36 y Mesur). Fodd bynnag, bydd rhai o'r cyrff e.e. Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn cael eu nodi yn Atodlen 6 o'r Mesur drwy rinwedd gorchymyn a osodwyd ar yr un diwrnod â'r Rheoliadau hyn, sef Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016. Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 35 a 38 a bydd yn amlinellu'r dosbarthiadau o safonau sy'n gymwysadwy i'r cyrff amrywiol. Caiff y Gorchymyn ei wneud cyn y Rheoliadau hyn yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Eithriadau ar gyfer Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig:   Nid yw’r Rheoliadau yn awdurdodi’r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig gydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau, safonau llunio polisi,   , safon cadw cofnod sy’n ymwneud â safon llunio polisi, nac ychwaith safonau atodol sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaeth neu lunio polisi.   Mae hyn oherwydd bod yr holl wasanaethau sy’n cael eu cynnig gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cael eu cynnig ar ran Gweinidogion Cymru.  Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gyfrifol am lunio polisïau’r cwmni. Felly, mae swyddogaethau cyflenwi gwasanaethau a llunio polisi y cwmni yn cael eu dal gan y safonau sy’n cael eu gosod gan y Comisiynydd ar Weinidogion Cymru. 

 

Eithriadau ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru: Nid yw’r Rheoliadau yn awdurdodi’r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gydymffurfio â safonau gweithredu, nac felly safonau cadw cofnod a safonau atodol sy’n ymwneud â safonau gweithredu.  Daeth yn amlwg yn ystod ymchwiliad safonau’r Comisiynydd nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyflogi staff, ac felly na fyddai safonau gweithredu yn berthnasol iddo. Mae’r staff sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol yn gyflogedig gyda Swyddfa Archwilio Cymru sy’n endid cyfreithiol ar wahân, ac sydd hefyd wedi’i enwi yn Atodlen 6 Rheoliadau Rhif 2.   

 


Y cefndir deddfwriaethol

Caiff y Rheoliadau ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 26, 27, 39 a 150(5) o'r Mesur. Mae adran 26 y Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau drwy reoliadau. Mae adran 27 yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau gwahanol ar gyfer ymddygiadau gwahanol. Mae hefyd yn eu galluogi i bennu un safon neu nifer o safonau ar gyfer ymddygiad penodol.

Cyn y gall y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i berson yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safon, rhaid i'r safon honno fod yn benodol gymwys i'r person hwnnw (adran 25).  Mae adran 39 yn darparu bod safon yn benodol gymwys i berson pan fydd Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw yn ymwneud â'r safon honno. Mae adran 105(5) yn darparu bod unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol ac arbed, darpariaethau cysylltiedig ac unrhyw ddarpariaethau eraill y mae Gweinidogion Cymru'n eu hystyried yn angenrheidiol neu'n briodol.

 

Yn unol ag Adran 150(2) o'r Mesur, rhaid i'r Rheoliadau gael eu gosod gerbron a'u cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (h.y. y weithdrefn gadarnhaol).

Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir ei chael

 

Gwnaeth y Mesur gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a chreu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr iaith. 

 

Cam allweddol i roi effaith i'r Mesur yw pennu safonau ac awdurdodi'r Comisiynydd i orfodi personau i gydymffurfio â'r Safonau hyn.

 

Mae adran 25 y Mesur yn darparu ei bod yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir amodau penodol. Mae'r amodau hynny'n cynnwys y canlynol:

 

      i.        bod safon yn benodol gymwys i'r person (h.y. mae Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw mewn perthynas â'r safon honno);

    ii.        bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person;

   iii.        bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i'r person gydymffurfio â'r safon;

   iv.        bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym. 

 

Bydd y ddyletswydd i gydymffurfio â'r safonau yn cymryd lle'r Cynlluniau Iaith Gymraeg a ddatblygwyd o dan Ddeddf yr Iaith 1993 a'u monitro gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg nes iddo gael ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2012, a gan y Comisiynydd Iaith ers 1 Ebrill 2012.

 

Mae dau ddiben i'r Rheoliadau. Y cyntaf yw pennu Safonau.

 

Mae safonau sy'n perthyn i'r categorïau canlynol wedi'u pennu yn y Rheoliadau:

 

·         Safonau cyflenwi gwasanaethau - bydd y rhain yn cael eu gosod mewn perthynas â hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, neu i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.

·         Safonau llunio polisi- bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

·         Safonau gweithredu - bydd y rhain yn delio â'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau. 

·         Safonau cadw cofnodion- bydd y rhain yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a dderbynnir gan sefydliad. Bydd y cofnodion hyn yn helpu'r Comisiynydd i sicrhau bod sefydliad yn cydymffurfio â'r safonau.

 

Mae'r safonau wedi'u drafftio gyda'r nod o:

·         wella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan sefydliadau

·         annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg yn fwy

·         ei gwneud yn glir i sefydliadau'r hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg 

·         sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff sydd yn yr un sectorau a'r un ardaloedd daearyddol.

 

Mae rhai safonau'n dibynnu ar ei gilydd. Felly, mae'r Rheoliadau'n cynnwys tablau (yn Rhan 2 o Atodlenni 1 a 3) i ategu'r safonau cyflenwi gwasanaethau a’r safonau gweithredu sy'n nodi pa safonau eraill y bydd angen eu gosod hefyd pan fydd safon benodol wedi'i chynnwys mewn hysbysiad cydymffurfio.

 

Ail ddiben y Rheoliadau yw awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiadau cydymffurfio i’r sefydliadau a restrir uchod sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r safonau a nodwyd.

 

Ni fydd y Rheoliadau, pan fyddant yn dod i rym, yn cael effaith uniongyrchol ar sefydliadau ac ni fyddant, ar eu pennau eu hunain, yn creu hawliau i'r rheini sy'n defnyddio'r Gymraeg. Bydd hynny ond yn digwydd pan fydd yr holl amodau yn adran 25 wedi'u bodloni. Fodd bynnag, mae'r Rheoliadau yn gam hanfodol yn fframwaith y Mesur, ac yn galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio â'r safonau.

 

Mater i'r Comisiynydd fydd dewis pa safonau i'w gosod ar bob sefydliad drwy hysbysiad cydymffurfio. Mae'r Rheoliadau'n pennu'r ystod o safonau y gellir eu gosod ar sefydliad. Nid oes raid i'r Comisiynydd ofyn bod pob sefydliad yn cydymffurfio â phob safon. Efallai y bydd sefydliad yn gorfod cydymffurfio â safon mewn rhai amgylchiadau yn unig ac nid mewn sefyllfaoedd eraill, neu mewn rhai ardaloedd yn unig ac nid mewn ardaloedd eraill, yn dibynnu ar yr hyn a nodir yn ei hysbysiad cydymffurfio. Bydd yr hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae'n ofynnol i'r sefydliad gydymffurfio â safon.

 

Apelio

Bydd unrhyw sefydliad yn gallu herio'r gofyniad i gydymffurfio â safon benodol, ar sail p'un a yw'n rhesymol ac yn gymesur disgwyl iddynt wneud hynny.

 

Yn y lle cyntaf, bydd sefydliad yn gallu herio'r Comisiynydd ei hun. Os na allant ddatrys yr anghydfod, mae modd apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac wedi hynny i'r Uchel Lys.

 

Sancsiynau

Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am orfodi cydymffurfiaeth â'r safonau.   Mewn achosion lle bydd y Comisiynydd yn penderfynu bod sefydliad wedi methu â chydymffurfio â safon, gall gymryd camau gorfodi. O dan y Mesur, gall camau gorfodi amrywio o lunio argymhellion neu roi cyngor i sefydliad, i orfodi cosb sifil nad yw'n fwy na £5,000.   

 

Risgiau peidio â gwneud deddfwriaeth

 

Os nad yw'r Rheoliadau arfaethedig yn cael eu gwneud, bydd y risgiau canlynol yn cael eu gwireddu:

·         Bydd y Cynlluniau Iaith Gymraeg a gyflwynwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn parhau yn eu lle ar gyfer y sefydliadau a restrir uchod (ar wahân i Opera Cenedlaethol Cymru Cyf a Theatr Genedlaethol Cymru nad oes ganddynt Gynllun Iaith).

·         Os yw'r Cynlluniau Iaith yn parhau, ni fydd mecanwaith gorfodi ar gael os yw sefydliad yn methu â chydymffurfio â'i Gynllun.

·         Ar hyn o bryd, mae Cynlluniau Iaith yn amrywio o un sefydliad i'r llall, ac mae'r ymrwymiadau mewn rhai Cynlluniau yn amhenodol. Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae'r cyhoedd yn ansicr pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg. Bydd yr ansicrwydd hwn yn parhau os nad yw'r Rheoliadau'n cael eu gwneud..  Er ei bod yn bosibl y bydd rhywfaint o amrywiaeth rhwng sefydliadau, mae'r safonau'n benodol eu natur ac felly byddant yn lleihau ansicrwydd y cyhoedd.  

·         Ansicrwydd ymhlith sefydliadau ynghylch eu darpariaethau Cymraeg, yn sgil y ffaith eu bod o dan yr argraff y bydd y safonau'n disodli eu Cynlluniau. Mae nifer o sefydliadau wedi dechrau paratoi ar gyfer cyflwyno'r safonau a'r drefn fonitro a gorfodi newydd.

·         Dim gwelliant o ran y defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliadau. Byddai'r defnydd o'r Gymraeg o fewn sefydliad yn parhau i ddibynnu ar ewyllys da'r sefydliad hwnnw, heb system fonitro yn ei lle.

·         Ni fydd rhan allweddol o'r Mesur yn cael ei gweithredu.

Ceir rhagor o wybodaeth am risgiau a manteision gweithredu'r safonau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol isod, ac mae'r risgiau o beidio â chyflwyno safonau wedi'u hamlinellu yn yr adran "Opsiwn 1: gwneud dim" yn y manteision.

Ymgynghori 

 

Rhwng mis Tachwedd 2014 a mis Chwefror 2015, cynhaliodd Comisiynydd y Gymraeg ymchwiliad gyda'r sefydliadau a fydd yn gorfod cydymffurfio â'r safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Gwnaeth Gweinidogion Cymru ystyried yn llawn yr argymhellion a gyflwynodd y Comisiynydd yn yr adroddiadau ar y Safonau ac mewn nodyn cyngor ar wahân. Mae'r adroddiadau hynny i'w cael ar wefan y Comisiynydd.

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal ymgynghoriad llawn â'r cyhoedd ar y Rheoliadau drafft. Fodd bynnag, mae'r sefydliadau yn ail ymchwiliad y Comisiynydd wedi cael cyfle i gyfrannu at y broses o wneud y Safonau. Ymatebodd bob un o'r sefydliadau i ymchwiliad y Comisiynydd; mae gan y rhan fwyaf ohonynt Gynllun Iaith eisoes a phrofiad o ddatblygu darpariaeth Gymraeg. Hefyd, trafodwyd materion penodol ynghylch addasrwydd y Rheoliadau hyn gyda sefydliadau unigol.

 

Asesiad o'r gystadleuaeth

 

Cynhaliwyd asesiad o'r gystadleuaeth - mae'r Rheoliadau'n annhebygol o gael effaith andwyol sylweddol ar gystadleuaeth. 

 

Adolygu ar ôl gweithredu

 

Mae'r Mesur yn darparu nifer o gyfleoedd i'r Comisiynydd ddwyn sylw Gweinidogion Cymru at addasrwydd y safonau a bennwyd yn y Rheoliadau. Er enghraifft;

·         Gall y Comisiynydd gyflwyno argymhellion neu roi cyngor i Weinidogion Cymru (adran 4 o'r Mesur) a allai argymell yn uniongyrchol diwygio'r Rheoliadau, os yw'n dymuno gwneud hynny. Hefyd gallai Gweinidogion Cymru benderfynu ar sail cyngor a roddir ganddi y byddai'n briodol adolygu'r safonau. Rhaid iddynt roi sylw dyledus i unrhyw argymhellion neu gyngor ysgrifenedig y mae'r Comisiynydd yn eu rhoi wrth arfer y swyddogaeth y mae'r argymhelliad neu'r cyngor yn ymwneud â hi.

·         Mae adran 18 y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd baratoi adroddiad blynyddol. Rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys adolygiad o faterion sy'n berthnasol i'r iaith Gymraeg (ymhlith materion eraill) a gallai hefyd gynnwys unrhyw faterion eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu cynnwys.

·         Yn ogystal, mae gan y Comisiynydd y pŵer i gynnal Ymchwiliad Safonau (adrannau 61 a 62 o'r Mesur) a all ystyried pa safonau a ddylai, neu a ddylai barhau i fod yn benodol gymwys i berson, p'un a yw'r safonau eisoes wedi'u pennu gan Weinidogion Cymru ai peidio. Ar ôl cynnal Ymchwiliad Safonau, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad Safonau a darparu copi ohono i Weinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i adroddiad o’r fath yn unol ag adran 66 o’r Mesur.

 

Yn amodol ar eu hysbysiadau cydymffurfio, bydd sefydliadau'n cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol bob blwyddyn sy'n amlinellu sut y maent wedi cydymffurfio â'r safonau a osodwyd arnynt (gweler safonau 152, 158 ac 164). Gallai'r adroddiadau blynyddol hyn hefyd godi materion yn ymwneud ag addasrwydd y safonau a bennwyd.


 

 

 

 


 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

Cefndir

1.    Gofynnwyd i'r sefydliadau a oedd yn rhan o ail ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg ('y Comisiynydd') gymryd rhan mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan Lywodraeth Cymru.  Cafodd holiadur yr Asesiad ei ddosbarthu gyda dogfennau ymchwiliad y Comisiynydd.  Cynhaliwyd yr ymchwiliad rhwng 7 Tachwedd 2014 a 9 Chwefror 2015, a gofynnwyd i'r sefydliadau gyflwyno eu hymatebion yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

 

2.    Ymatebodd 73 o'r 119 sefydliad yn ail ymchwiliad y Comisiynydd i holiadur yr Asesiad, sef cyfradd ymateb o 61%.  Roedd y sefydliadau hynny'n drawstoriad da o'r wahanol sectorau, ac yn cynnwys sefydliadau gydag ystod amrywiol o ddarpariaethau Cymraeg.  Gwnaeth y rhan fwyaf o'r ymatebwyr ddarparu gwybodaeth fanwl am y costau a'r manteision o weithredu'r safonau yn eu sefydliadau. 

 

3.    Ym mis Mai a dechrau Mehefin 2015, cyflwynodd y Comisiynydd ei hymateb swyddogol i'r Ymchwiliad Safonau i Lywodraeth Cymru, a hynny ar ffurf naw adroddiad o dan adran 64 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur').  Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i (i) Adroddiadau Safonau'r Comisiynydd wrth benderfynu a ddylid arfer y pwerau yn Rhan 4 o'r Mesur (sy'n cynnwys y pŵer i bennu safonau) a sut i wneud hynny, a (ii) unrhyw gyngor a roddir gan y Comisiynydd yn ysgrifenedig.

 

Crynodeb o’r ymatebion

4.    Mae 16 o'r 32 sefydliad (50%) a fydd yn destun i Reoliadau Cylch 2 wedi darparu data ar gost eu Cynllun Iaith Gymraeg presennol, ac amcangyfrif o’r gost o gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Y sefydliadau hyn oedd Canolfan Mileniwm Cymru, Colegau Cymru Cyf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, y Gronfa Loteri Fawr, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Gwybodaeth, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

 

Cywirdeb a defnyddioldeb data

 

5.    Mae gennym bryderon am y data a gafwyd gan y sefydliadau ac a yw'n addas ar gyfer llunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol cadarn a chywir. Gwnaeth y Comisiynydd seilio ei hail ymchwiliad ar y Rheoliadau drafft a baratowyd ar gyfer y cyrff yng nghylch 1 a oedd yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2014. Felly, roedd yr ymatebion i'r Asesiad hefyd yn seiliedig ar y Rheoliadau hyn. Roedd rhai sefydliadau'n gyndyn o seilio eu hymateb ar Reoliadau drafft oherwydd y posibilrwydd y gallent newid, a hefyd eu bod wedi'u paratoi'n benodol ar gyfer Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol. 

 

6.    I alluogi cynnal asesiad o’r gost ychwanegol o gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, byddai’n rhaid i sefydliad ddarparu ffigwr o’r gost o gydymffurfio gyda’i Gynllun Iaith Gymraeg presennol, ac amcangyfrif o gost cydymffurfio â Safonau. Fodd bynnag, mewn nifer o achosion nid oedd modd i’r sefydliad ddarparu’r ffigurau, neu roeddent ond wedi darparu un ffigwr.

 

7.    Hyd yn oed lle darparwyd amcangyfrif o’r gost, pwysleisiodd nifer o sefydliadau ei bod yn anodd iddynt ddarparu data cywir heb wybod pa rai o'r safonau drafft y byddai disgwyl iddynt gydymffurfio â nhw.  Mae'n edrych yn debyg bod rhai sefydliadau wedi darparu amcangyfrif o'r costau ar gyfer cydymffurfio â phob safon. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd pob safon yn cael ei gorfodi ar un sefydliad - mater i'r Comisiynydd fydd penderfynu ar hyn pan fydd yn rhoi hysbysiadau cydymffurfio o dan adran 45 o Fesur y Gymraeg.

 

8.    Mae sefydliadau hefyd wedi dehongli'r cwestiynau mewn gwahanol ffyrdd.  Ceir nifer o enghreifftiau lle mae sefydliadau'n nodi y bydd eu costau'n cynyddu er mwyn cyflogi aelodau ychwanegol o staff i ddelio â gweithredu gwahanol gategorïau o safonau, er bod eu tystiolaeth yn awgrymu mai un person yn unig y byddai ei angen i wneud y gwaith hwn.  Mae hyn wedi cynyddu'n sylweddol yr amcangyfrifon a ddarparwyd gan y sefydliadau hyn.  Cafwyd enghreifftiau hefyd lle mae sefydliadau wedi cynnwys y gost o gyflogi staff i ddarparu gwasanaethau fel cost o gydymffurfio â'u Cynllun Iaith presennol. Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod y staff hyn wedi'u cyflogi i ddarparu gwasanaethau'r sefydliad, ac nid gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn unig weithiau. 

 

9.    Mae nifer o sefydliadau wedi darparu amcangyfrifon o gostau cydymffurfio sy'n sylweddol uwch na sefydliadau eraill tebyg.    

 

10. Gyda hyn mewn cof, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn canolbwyntio ar yr effaith economaidd, cymdeithasol ac ieithyddol ar sefydliadau a hefyd yn cwmpasu'r effaith ariannol cyn belled â phosibl.  Os caiff y Rheoliadau sêl bendith y Cynulliad, caiff gwybodaeth bellach ei chasglu gan sefydliadau pan fydd y Comisiynydd yn rhoi Hysbysiadau Cydymffurfio a'r sefydliadau mewn sefyllfa i ddarparu costau mwy cywir. Wedyn, bydd modd cynnal asesiad llawn o'r effaith ariannol. 

 

Yr opsiynau

 

11. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn ystyried dau opsiwn:

 

o   Opsiwn 1: Gwneud dim - parhau gyda'r Cynlluniau Iaith presennol fel y'u gweithredir o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

o   Opsiwn 2: Cyflwyno safonau mewn perthynas â'r Gymraeg ar gyfer y 32 sefydliad a restrir uchod.

 

12. Mae'r dadansoddiad canlynol yn ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r opsiynau hyn.

 

Costau a manteision

 

Costau

 

Opsiwn 1: Gwneud dim

 

13. Nid oes costau ychwanegol yn gysylltiedig â'r opsiwn hwn. Ni fyddai angen i'r sefydliadau hyn gydymffurfio â Safonau newydd ond bydd disgwyl iddynt barhau i ddarparu eu Cynlluniau Iaith presennol. 

 

14. Mae tabl 1 yn crynhoi'r wybodaeth a gafwyd gan y sefydliadau ynghylch y gost o gydymffurfio â'r Cynlluniau Iaith presennol.  Mae'r ystod o gostau fwy na thebyg yn adlewyrchu'r gwahaniaeth ym maint a chwmpas y sefydliadau dan sylw ynghyd â gwahanol ffyrdd o ddehongli'r cwestiynau yn yr holiadur.

 

Tabl 1 - Yr ystod o gostau ar gyfer gweithredu'r Cynlluniau Iaith presennol

 

Ymatebion

Lleiafswm (£)

Uchafswm

(£)

Cyrff yn Rheoliadau (Rhif 2)

 

16

0

1,451,500

 

 

Opsiwn 2: Cyflwyno Safonau mewn perthynas â'r Gymraeg ar gyfer y 32 sefydliad a restrir uchod.

 

15. Er na phenderfynwyd eto pa safonau fydd yn berthnasol i bob sefydliad, mae'n debygol y bydd y sefydliadau'n ysgwyddo costau untro a chostau rheolaidd ychwanegol er mwyn cydymffurfio â'r safonau.

 

16. Y prif gostau rheolaidd fydd costau staffio, yn enwedig ar gyfer staff ag arbenigedd ym meysydd cyfieithu, marchnata a pholisi. Mae'n debygol y bydd angen i'r sefydliadau ehangu eu cyfleusterau cyfieithu, naill ai drwy recriwtio mwy o gyfieithwyr mewnol neu drwy anfon gwaith cyfieithu allan i ddarparwyr allanol. 

 

17. Yn ogystal, maent yn debygol o ysgwyddo costau untro a chostau rheolaidd ar gyfer hyfforddiant. Disgwylir i'r costau hyfforddi untro fod yn gysylltiedig â gweinyddu mewnol a hyfforddiant ar weithredu'r safonau, a bydd y costau hyfforddi rheolaidd yn canolbwyntio mwy ar yr angen posibl i ddarparu mwy o hyfforddiant statudol i staff yn Gymraeg ynghyd â hyfforddiant i staff wella eu sgiliau Cymraeg.

 

18. Fel y nodwyd uchod, cysylltwyd â'r sefydliadau dan sylw i ofyn iddynt ddarparu data ar gostau ar gyfer yr Asesiad hwn.  Mae ein pryderon am y data a gasglwyd wedi'u hamlinellu uchod. 

 

19. I ddangos yr amrywiaeth yn yr ymatebion, mae lleiafswm ac uchafswm y costau ychwanegol a nodwyd ar gyfer y sefydliadau hyn wedi'u hamlinellu yn y tabl isod.  Er bod yr amcangyfrif o'r uchafswm yn allanolyn, roedd sefydliadau eraill yn nodi cynnydd mawr mewn costau cydymffurfio. O ran y lleiafswm, nid yw'n glir pa mor realistig yw awgrymu (cyn gwybod pa safonau fydd yn berthnasol) na fydd sefydliad yn ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol wrth gydymffurfio â'r safonau.

 

Tabl 2 - Yr ystod o gostau ychwanegol a nodwyd gan sefydliadau (£)

 

Ymatebion

Lleiafswm

Uchafswm

Cyrff yn Rheoliadau (Rhif 2)

 

16

0

‘O leiaf 2.1 miliwn’

 

20. O ganlyniad i'r pryderon uchod, ystyrir bod y data'n anghyflawn ac o bosibl yn anghyson.  Yn dilyn trafodaethau ag Economegwyr ac Ystadegwyr y Llywodraeth, cytunwyd nad yw'r data a gasglwyd yn ddigon cadarn i'w defnyddio mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol.  Yn sgil yr amrywiaeth yn y data a gyflwynwyd a'r ansicrwydd o ran pa Safonau fydd yn berthnasol i bob grŵp, byddai hyd yn oed nodi ffigur cyfartalog yn annhebygol o fod yn adlewyrchiad cywir o'r gost o gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg.

 

21. Ystyriwyd cynnal cylch casglu data arall, ond penderfynwyd bod y canlyniad yn debygol o fod yn debyg ac na fyddai modd casglu'r data angenrheidiol i lunio asesiad cadarn o'r goblygiadau o ran cost nes bod gwybodaeth bellach ar gael ar ba safonau fydd yn berthnasol i bob sefydliad.

 

22. Yn ogystal â'r costau cydymffurfio a ysgwyddir gan y sefydliadau, mae Comisiynydd y Gymraeg a Thribiwnlys y Gymraeg hefyd yn debygol o ysgwyddo costau ar gyfer monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r safonau. Yn olaf, bydd proses apelio'n cael ei sefydlu. Golyga hyn y bydd sefydliad sy'n credu bod y safonau a orfodwyd arno yn afresymol neu'n anghymesur yn gallu apelio i'r Comisiynydd yn y lle cyntaf, ac wedi hynny i Dribiwnlys y Gymraeg.  Nid yw'r costau sy'n gysylltiedig â'r prosesau hyn yn wybyddus eto.



Manteision

 

Opsiwn 1: Gwneud dim

 

23. Dyma’r opsiwn sylfaenol ac nid oes manteision ychwanegol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn.

 

24. Byddai gwneud dim yn golygu bod y Cynlluniau Iaith presennol, sydd wedi bod yn eu lle ers 1993, yn parhau fel ag y maent. Byddai swyddogaeth reoleiddio’r Comisiynydd yn parhau’n debyg i swyddogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Byddai’r gweithdrefnau ar gyfer cytuno ar gynlluniau a’u diwygio, sy’n llyncu llawer o adnoddau, hefyd yn parhau, ynghyd â’r drefn orfodi gyfyngedig bresennol.

 

Opsiwn 2: Cyflwyno Safonau mewn perthynas â'r Gymraeg ar gyfer y 32 sefydliad a restrir uchod.

 

25. Diben y safonau yw gwella lefel y gwasanaeth y gall aelodau'r cyhoedd ddisgwyl ei derbyn.   Yn y cam hwn (a nes bod Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi'r hysbysiadau cydymffurfio), mae ond yn bosibl amlinellu'r manteision cyffredinol a ddisgwylir. 

 

26. Bydd y safonau'n nodi'n glir beth y mae angen i'r sefydliadau ei wneud o ran y Gymraeg, fel bod pobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl o ran gwasanaethau Cymraeg.   Bydd yr eglurder hwn, ar gyfer y cyhoedd a'r sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod y safonau'n gallu cael eu gorfodi'n effeithiol ac yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

 

27. Mae 30 o'r 32 sefydliad eisoes yn gweithredu Cynlluniau Iaith ac eisoes yn gwneud nifer o'r pethau  a nodwyd yn y safonau.  Mae'r safonau'n adeiladu ar y Cynlluniau ac yn rhoi gofynion mwy cadarn ar y sefydliadau hyn.  Fodd bynnag, ni all y Comisiynydd ond pennu safonau sy'n rhesymol ac yn gymesur ar gyfer pob sefydliad unigol. 

 

28. Ar lefel ymarferol, bydd y safonau'n cyflwyno dyletswyddau penodol a gorfodadwy yn lle'r ymrwymiadau yn y Cynlluniau sydd weithiau'n amwys. 

 

29. Bellach, bydd yn ofynnol i sefydliadau fynd ati mewn ffordd fwy rhagweithiol a strategol i brif ffrydio'r Gymraeg.  Bydd y 'cynnig rhagweithiol' yn allweddol i hyn, sy'n rhoi cyfrifoldeb ar y sefydliad i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na disgwyl i'r unigolyn ofyn amdanynt.  Bydd yn hyn darparu sylfaen gadarn i wella'r gwasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

 

30. Bydd gwell trefn orfodi yn cynnig dull mwy effeithiol o ymdrin ag achosion honedig o beidio â chydymffurfio â safonau ond yn sicrhau hefyd y gellir datrys cwynion yn gynnar ac yn anffurfiol os yw hynny’n briodol. 

 

31. Fel rhan o broses yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, gofynnwyd i sefydliadau fynegi barn ar unrhyw fanteision ieithyddol, cymdeithasol neu amgylcheddol o gyflwyno safonau.  Cafwyd amrywiaeth o ymatebion - o sefydliadau nad oedd yn gweld unrhyw fantais o gyflwyno safonau i'r rheini a oedd yn gweld y safonau fel cyfle mewn sawl ffordd. 

 

32. O safbwynt economaidd neu fusnes, roedd rhai sefydliadau'n gweld y safonau fel cyfle i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu gweithluoedd. Dywedwyd y gallai hyn arwain at arbedion mwy hirdymor ar waith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd a oedd yn cael ei anfon allan gynt. Byddai hefyd yn cynyddu eu gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a fyddai'n ddefnyddiol wrth weithio gyda sefydliadau sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.

 

33. Dywedodd rhai sefydliadau y byddai'r safonau'n eu helpu i wella'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig i bobl ddwyieithog a denu cwsmeriaid newydd.  Soniwyd hefyd am ddarparu gwell amgylchedd weithio i staff, a chefnogi staff i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle.

 

34. Soniodd nifer fach o sefydliadau am eu cyfrifoldeb cymdeithasol i hyrwyddo'r Gymraeg, gan ddweud y byddai'r safonau'n eu helpu i normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg, yn enwedig mewn amgylchedd busnes.   Gallai hyn gynyddu hyder pobl a'u helpu i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.  Roedd un sefydliad yn teimlo y byddai'r safonau'n rhoi mwy o werth i'r Gymraeg fel sgil yn y gweithlu.   

 

35. Bydd Rheoliadau Set 2 yn berthnasol i nifer o sefydliadau yn y sector hamdden a thwristiaeth. Dywedodd y sefydliadau hyn yn arbennig bod defnyddio'r Gymraeg yn gallu ychwanegu at atyniad diwylliannol sefydliad neu leoliad i ymwelwyr, yn enwedig ymwelwyr tramor, a chreu ymdeimlad o le. Mae'n atyniad unigryw i ymwelwyr ac roedd sawl sefydliad yn gweld y manteision economaidd a allai fod yn gysylltiedig â hyn. 

 

36. Yn olaf, dywedodd rhai sefydliadau bod cydymffurfio â'r Safonau'n debygol o ehangu eu cysylltiadau â'u cymunedau lleol ac annog mwy o bobl leol i gymryd rhan yn eu gweithgareddau.  Soniodd nifer o sefydliadau eraill am fwy o gynhwysiant cymdeithasol hefyd.

 

Casgliad

 

37. Mae'r ansicrwydd ynghylch pa Safonau y bydd angen i bob sefydliad gydymffurfio â hwy yn golygu nad yw'n bosibl llunio asesiad cadarn ar hyn o bryd o'r costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r Rheoliadau.

 

38. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymgynghori â'r sefydliadau perthnasol cyn cyhoeddi'r hysbysiadau cydymffurfio terfynol. Mae ffactorau megis pa mor rhesymol a chymesur yw safonau unigol yn debygol o gael eu hystyried yn y cam hwn, ynghyd â pha sefydliadau y bydd disgwyl iddynt gydymffurfio â'r safonau ac ym mha amgylchiadau. Fel rhan o'r broses hon, gallai'r sefydliadau gyflwyno asesiad o'r costau a'r manteision cymharol sy'n gysylltiedig â'r Safonau. Gallai'r Comisiynydd ystyried hyn wrth benderfynu a yw'r safonau'n rhesymol ac yn gymesur.  Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gwblhau cyn bod yr hysbysiadau cydymffurfio'n cael eu rhoi.